Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mai 2014
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Addysg Uwch
(Cymru)
1. Ar 19 Mai 2014, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Addysg Uwch (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 29 Ebrill 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Ar 13 Mai 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 3 Hydref 2014.
4.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 28
Tachwedd 2014, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.